2013 Rhif 2727 (Cy. 262) (C. 109)

adeiladu ac adeiladau, CYMRU

Gorchymyn Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1)  2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw'r gorchymyn cychwyn cyntaf sydd wedi ei wneud o dan Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011. Daw ag adran 1 o'r Mesur i rym yn llawn mewn dau gam.

Daw adran 1 i rym ar 30 Ebrill 2014 mewn perthynas â chartrefi gofal, cartrefi plant, neuaddau preswyl, mathau penodol o hostelau a thai preswyl ac ar 1 Ionawr 2016 mewn perthynas â thai annedd a fflatiau. Ni chaiff adran 1 ei chychwyn mewn perthynas â mathau penodol o adeilad, gweler Erthygl 2(3).

Mae adran 1 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu system llethu tân awtomatig i breswylfeydd pan gânt eu cwblhau neu eu meddiannu gyntaf fel preswylfa. Mae adran 1 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi'r gofynion y mae'n ofynnol i system llethu tân awtomatig gydymffurfio â hwy.


2013 Rhif 2727 (Cy. 262) (C. 109) 

Adeiladu ac adeiladau, CYMRU

Gorchymyn Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif  1)  2013

Gwnaed                                 22 Hydref 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 8(1) a 9(3) o Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif  1) 2013.

(2) Yn y Gorchymyn hwn —

mae i “adeilad ynni a eithrir”  yr ystyr a roddir i “excepted energy building” yn yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2)  2009([2]); ac

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011.

Diwrnod Penodedig

2.(1)(1) Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar y diwrnod penodedig yn ddarostyngedig i baragraff (3)—

(a)     adrannau 1(1) i (3);

(b)     adran 1(4) at bob diben arall; ac

(c)     adran 1(5).

(2) Y diwrnod penodedig yw—

(a)     30 Ebrill 2014 mewn perthynas ag:

                           (i)    cartrefi gofal;

                         (ii)    cartrefi plant;

                       (iii)    neuaddau preswyl;

                        (iv)    ystafelloedd at ddibenion preswyl; a

(b)     1 Ionawr 2016 mewn perthynas ag:

                           (i)    tai annedd;

                         (ii)    fflatiau.

(3) Nid yw paragraff (1) yn cychwyn darpariaethau'r Mesur mewn perthynas ag adeiladau sydd—

(a)     yn rhestredig yn unol ag adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd  Cadwraeth) 1990([3]);

(b)     mewn ardal gadwraeth a ddynodwyd yn unol ag adran 69 o'r Ddeddf honno;

(c)     wedi eu cynnwys yn y gofrestr o henebion a gynhelir o dan adran 1 o Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979([4]);

(d)     adeiladau ynni a eithrir; nac

(e)     adeiladau dros dro, hynny yw adeiladau sydd ag amser defnyddio a gynlluniwyd o ddwy flynedd neu lai.

 

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

 

22 Hydref 2013

 



([1])           2011 mccc 3

([2])           O.S. 2009/3019.

([3])           1990 (p.9).

([4])           1979 (p.46). Diwygiwyd adran 1 gan Atodlen 4 i Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1983 (p.47).